Croeso
Croeso i TermCymru - y gronfa derminoleg sy'n cael ei chynnal
a'i chadw gan Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cefndir
Casgliad yw TermCymru o'r termau y bydd cyfieithwyr y Cynulliad
yn eu defnyddio yn eu gwaith bob dydd. Caiff ei ddiweddaru'n
rheolaidd ac mae'n tyfu'n raddol yn gronfa helaeth o dermau
safonol a chyfoes. Nid cronfa hollgynhwysfawr ac awdurdodol
mohoni - y nod yw cofnodi'r termau a ddefnyddir gan y cyfieithwyr
yn y gwahanol feysydd y mae'r Cynulliad yn ymdrin â
hwy. Mae hefyd yn cynnwys enwau llawer o gynlluniau a rhaglenni
Llywodraeth Cynulliad Cymru, ynghyd â theitlau nifer
o'r dogfennau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
a chan gyrff eraill. Wrth gyhoeddi'r casgliad ar y we, y gobaith
yw y bydd o ddefnydd nid yn unig i gyfieithwyr, ond i unrhyw
un sy'n ymdrin â therminoleg wrth weithio mewn hinsawdd
ddwyieithog.
Cronfa Saesneg-Cymraeg yw TermCymru yn wreiddiol; ni nodwyd
rhannau ymadrodd ac ati ar gyfer y termau Saesneg. Serch hynny,
mae modd chwilio o'r Gymraeg i'r Saesneg yn ogystal ag fel
arall.
Sylwer nad yw'r holl dermau yn y gronfa wedi'u safoni. Er
mwyn dangos hynny, rhoddwyd statws i bob term, yn amrywio
o statws 5 (yr isaf) i statws 1
(yr uchaf). Ar ôl i derm gael ei drafod a'i gymeradwyo,
caiff y statws ei godi. Mae'n bwysig ystyried statws pob term
cyn ei ddefnyddio.
|