Pwysigrwydd y Cyd-destun
Mae'n bwysig dewis y term priodol ar gyfer y maes sydd dan
sylw.
Er enghraifft: Mae 'Attendance Allowance' yn codi
ddwywaith. 'Lwfans Mynychu' yw'r term yng nghyd-destun llywodraeth
leol (hy tâl am fynychu cyfarfodydd cyngor) ond, ym
maes gwasanaethau cymdeithasol, y term cywir fyddai 'Lwfans
Gweini' (hy lwfans gofal). Lle bo angen dewis termau gwahanol
ar gyfer cyd-destunau gwahanol, ceir esboniad yn y blwch 'Nodiadau'.
Rhoddir nodyn hefyd yn achos termau penodol a ddefnyddir
mewn cyd-destunau cyfreithiol.
|