Sut i Chwilio
-
Yn y blwch gwyn, teipiwch y gair neu'r geiriau yr ydych am chwilio amdanynt. Er enghraifft:
-
energy climate change
-
-
I chwilio am ymadrodd neu air sy'n cyfateb yn union, rhowch eich chwiliad mewn dyfynodau dwbl. Er enghraifft:
-
"energy and climate change"
-
-
Gallwch roi geiriau Cymraeg neu eiriau Saesneg yn y blwch chwilio. Bydd y canlyniadau'n cael eu dangos yn y ddwy iaith.
-
Cliciwch ar 'Chwilio' neu pwyswch eich botwm 'Return'.
-
Os bydd eich chwiliad yn llwyddiannus, bydd y canlyniadau'n ymddangos ar y sgrin. Cofiwch glicio ar y ddolen 'mwy o fanylion' ar y dde i weld manylion y cyd-destun, y statws a'r rhannau ymadrodd.
Acenion ar eiriau Cymraeg
Chwilio o'r Saesneg i'r Gymraeg: Yn y canlyniadau, dangosir pob acen heblaw'r acen grom (to bach) ar 'w' ac 'y' mewn geiriau fel 'grŵp' a 'ty'.
Ceir nodyn o dan eiriau o'r fath yn esbonio bod angen rhoi acen grom.
Chwilio o'r Gymraeg i'r Saesneg: Mae TermCymru yn adnabod pob acen heblaw'r acen grom ar 'w' ac 'y'. Wrth chwilio, dylid teipio geiriau fel 'grwp' a 'ty' heb yr acen grom.
