Cysylltiadau perthnasol

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Statws y Termau

Statws 1 yw'r uchaf; statws 5 yw'r isaf.

Statws 1

  • Argymhellion Panel Safoni Termau Bwrdd yr Iaith Gymraeg, sydd wedi'u cymeradwyo a'u derbyn gan Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cynulliad Cymru.
  • Teitlau cyhoeddiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru (gan gynnwys Offerynnau Statudol).
  • Teitlau cyhoeddiadau cyrff eraill.
  • Enwau siroedd ac etholaethau, teitlau Gweinidogion a phwyllgorau'r Cynulliad, enwau cyrff swyddogol ac ati.
  • Enwau cyffredin ac enwau priod a dderbynnir yn gyffredinol ac nad oes dadl yn eu cylch.

Statws 2

  • Argymhellion Panel Safoni Terminoleg Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Statws 3

  • Argymhellion Pwyllgor Terminoleg mewnol Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Statws 4

  • Termau a argymhellwyd neu a gymeradwywyd gan arbenigwyr pwnc Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cynulliad Cymru.
  • Termau a argymhellwyd neu a gymeradwywyd gan y cyfieithwyr deddfwriaethol ar gyfer eu defnyddio yn is-ddeddfwriaeth y Cynulliad.

Statws 5

  • Termau a awgrymwyd gan gyfieithwyr unigol.
  • Termau y daethpwyd ar eu traws mewn gwahanol gyhoeddiadau electronig a phapur.
2006-04-21